Lleisiau Bach ~ Little Voices 2012-2020
Bu Lleisiau Bach Little Voices 2012 – 2020 yn cefnogi plant i fod yn ymchwilwyr ac eiriolwyr er mwyn sicrhau newid, ac i gyfrannu at bolisi a gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n bwysig iddynt.
LLEISIAU BACH
Archwilio ein Gwefan

Darllen amdanom
Lleisiau Bach
Rydym yn defnyddio hawliau dynol ac ymchwil i helpu plant i gael eu gweld a’u clywed fel dinasyddion yn yr oes sydd ohoni, nid dim ond fel ‘dinasyddion y dyfodol’.

Archwilio ein hadran adnoddau
Adnoddau
Rydym yn creu dulliau, wedi’u gwreiddio mewn hawliau dynol, i rymuso plant i wneud eu hymchwil eu hunain, i eirioli dros newid a gweithio ag eraill i wneud i newid ddigwydd.

Dysgu am ein prosiectau
Prosiectau
Rydym wedi helpu plant i gyflawni newid trwy nifer fawr o brosiectau ledled Cymru. A phob tro wedi dysgu mwy: am blant, am hawliau, am ein cymunedau, am ein byd’.
Bu Lleisiau Bach Little Voices 2012 – 2020 yn cefnogi plant i fod yn ymchwilwyr ac eiriolwyr er mwyn sicrhau newid, ac i gyfrannu at bolisïau a gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n bwysig iddynt. Wedi’i ariannu gan Y Loteri, ac wedi’i gynnal o 2012 gan y Ddraig Ffynci (Funky Dragon), ac yna, o 2014 gan Brifysgolion Abertawe a Bangor, cefnogodd Lleisiau Bach Little Voices dimau ymchwil o blant o fewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru, gan weithio gyda ystod eang o bartneriaid er mwyn sicrhau fod argymhellion y plant yn cael eu cyflawni/cael effaith.
Mae’r wefan hon yn dangos sut y gwnaed y gwaith hwn, rhai o’r prosiectau a gefnogwyd gennym a sut mae’r dulliau sy’n seiliedig ar hawliau a ddatblygwyd gennym yn cael eu defnyddio a sut y gellir eu defnyddio.
Beth
Beth mae Lleisiau Bach Little Voices yn ei wneud?

Rydym yn gweithio gyda eraill
Rydym yn gweithio gyda ysgolion, grwpiau cymunedol, cyrff anllywodraethol, y llywodraeth a chynrychiolwyr etholedig, cyrff cyhoeddus, gweithwyr proffesiynol, ymchwilwyr ac eraill. Os hoffech chi drafod gweithio gyda ni, cysylltwch â ni yma.

Ein hanes
Tyfodd Lleisiau Bach Little Voices o fewn y sectorau cyrff anllywodraethol ac ymchwil yng Nghymru, ochr yn ochr â chyfraith Cymru children’s rights a llesiant. Darllenwch ein hanes yma.

Rydym yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc
Rydym yn galluogi plant i arwain eu prosiectau eu hunain a gweithio gydag eraill i gyflawni newid, gan roi effaith ymarferol i’w hawliau dynol hwy ac eraill.

Gwybodaeth am ein tîm
Mae ein tîm wedi’i wreiddio yng Nghymru, gyda dros 10 mlynedd o brofiad o gefnogi plant fel ymchwilwyr a gweithio dros hawliau plant. Dewch i’n hadnabod yma.

Rydym yn gweithio gyda’n gilydd
Mae ein tîm craidd wedi bod yn datblygu a thyfu dulliau Lleisiau Bach ers dros 10 mlynedd. Rydym yn cefnogi ac yn dysgu’n gyson oddi wrth ein gilydd.

Darllenwch am ein dulliau
Rydym yn defnyddio hawliau dynol ac ymchwil i rymuso plant i gyflawni newid ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.” href=”/about-us/methodology/”>Darllenwch am ein dulliau yma.


