Ein Tîm

Cydlynydd: Professor Jane Williams

Mae Jane yn gyn-fargyfreithiwr a chyfreithiwr y llywodraeth, yn gyd-gyfarwyddwr sefydlu’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, sylfaenydd  Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru ac yn athro yn  Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton  ym Mhrifysgol Abertawe.

O 2014 ymlaen, bu’n arwain prosiectau Lleisiau Bach, gan reoli grantiau olynol gan Pawb a’i Le: Grantiau Mawr  . Mae yn awdur cyhoeddiadau ar y gyfraith a pholisi cyhoeddus, hawliau dynol plant a datganoli Cymru, yn gyn aelod o Grŵp Monitro CCUHP Cymru, ac ymddiriedolwr Ymgyrchu dros Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru. Rhwng  2018 -2020 roedd yn Gyfarwyddwr dros dro Academi Morgan, melin drafod polisi cyhoeddus sy’n ymroddedig i fynd i’r afael â materion drygionus mewn polisi cyhoeddus sy’n effeithio ar Gymru a’r byd ehangach, gan reoli ei newid yn Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan  ym Mhrifysgol Abertawe.

Cysylltu: jane.m.williams@swansea.ac.uk

Proffil: https://www.swansea.ac.uk/staff/law/williams-j-m/

Dylunio Prosiect, Cyflenwi ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: Helen Dale

Dechreuodd gwaith Helen Dale gyda Lleisiau Bach trwy’r Ddraig Ffynci (Funky Dragon), Cynulliad Plant a Phobl Ifanc Cymru 2000 -2014. Yn 2014 symudodd gyda’r prosiect i’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ym Mhrifysgol Abertawe. Cefnogodd holl brosiectau Lleisiau Bach de Cymru yn ogystal ac ymchwil genedlaethol. Mae yn gyd-awdur adroddiadau prosiectau, canllawiau hyfforddi a chyhoeddiadau eraill. Yn Gymrawd o’r Academi Addysg Uwch, dyluniodd a chyflwynodd Helen fodiwlau prifysgol, hyfforddiant proffesiynol, mentora a chefnogaeth broffesiynol arall ar blant fel ymchwilwyr a’r dulliau Lleisiau Bach a gyd-greodd gydag Arwyn Roberts.

Cysylltu: helen@lleisiaubach.org

Proffil: https://www.swansea.ac.uk/law/observatory/people/

Dylunio Prosiect, Cyflenwi ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd: Arwyn Roberts

Ymunodd Arwyn Roberts â’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant ym Mhrifysgol Bangor yn 2014 ar ôl gweithio i y Ddraig Ffynci (Funky Dragon) o 2007. Wedi’i leoli yn yr Ysgol Addysg a Datblygiad Dynol ym Mhrifysgol Bangor, cefnogodd Arwyn bob un o brosiectau Lleisiau Bach yn ngogledd a chanolbarth Cymru, a’r rhai hynny a gyflwynwyd yn y Gymraeg, yn ogystal ag ymchwil genedlaethol. Mae’n gyd-awdur adroddiadau prosiect, canllawiau hyfforddi a chyhoeddiadau eraill. Dyluniodd a chyflwynodd Arwyn addysgu prifysgol a hyfforddiant a chefnogaeth broffesiynol ar blant fel ymchwilwyr ynghyd a dulliau Lleisiau Bach a gyd-greodd gyda Helen Dale.

Cysylltu: arwyn@lleisiaubach.org

Proffil: https://research.bangor.ac.uk/portal/en/researchers/arwyn-roberts(756ba6d3-c35e-47f1-ad70-4013535d8764).html

Cymorth Ymchwil: Andrew Jenkins

Yn raddedig o Brifysgol Abertawe, mae gan Andrew BA mewn Gwareiddiad Clasurol ac MA mewn Gwleidyddiaeth. Rhwng 2012 a 2017, roedd gan Andrew swydd etholedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Ymunodd â’r Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yn 2017, gan weithio fel Cymorth Ymchwil ar ddeall cyfranogiad plant a phobl ifanc. Yn 2018 ymunodd â thîm Lleisiau Bach, gan ddarparu ymchwil cefndir, cefnogaeth polisi a chysylltedd datblygiadol gyda  Canolfan Gyfreithiol y Plant Cymru.

Cysylltu: andrew.jenkins@live.co.uk

Proffil: https://www.swansea.ac.uk/law/observatory/people/