Dull

Mae Lleisiau Bach Little Voices yn ffurf o ymchwil weithredu cyfranogol (PAR):

Beth yw PAR? Disgrifiodd  Hart 1992, p. 16  ef fel ymchwil sydd:

‘yn dechrau gyda phroblem bendant a nodwyd gan y cyfranogwyr eu hunain; ac mae’n mynd ymlaen i ymchwilio i achosion sylfaenol y broblem fel y gall y cyfranogwyr eu hunain fynd ati i fynd i’r afael â’r achosion hyn ’

OND mae gan Lleisiau Bach Little Voices ddwy nodwedd arbennig sy’n ei gwahaniaethu oddi wrth y mwyafrif eraill o arferion PAR:

Mae’n cael ei fframio gan CCUHP: o ran cwmpas prosiectau, cynnal ymchwil, moeseg a’r agwedd at effaith. Bydd rhyngweithio oedolion â phlant mewn prosiectau yn parchu, amddiffyn a hyrwyddo hawliau’r plentyn.

Ac, o fewn y fframwaith CCUHP hwnnw:

Mae’n cael ei arwain gan blant: Y plant sy’n penderfynu beth y byddan nhw’n ymchwilio iddo, sut y byddan nhw’n ei wneud a phwy y byddan nhw’n ceisio’i gynnwys. Nhw fydd yn penderfynu sut i gyflwyno eu canlyniadau a’u hargymhellion. Nhw sy’n penderfynu a ddylid ceisio sicrhau newid a gyda phwy.

Nid ymchwil ‘am’ neu ‘ar’ blant ydyw, ond ffordd o gynorthwyo plant i weithio gyda’i gilydd a chydag oedolion i nodi materion, cynllunio ymchwil, casglu tystiolaeth ac i ddod o hyd i atebion a fydd yn rhoi gwell effaith i CCUHP yn ymarferol.

Oherwydd bod y gwaith wedi’i fframio gan CCUHP gallwn ddefnyddio system y CCUHP ar lefelau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol i eirioli dros newid. Ar ein Tudalennau Prosiectau gallwch weld sut rydym yn gwneud y cysylltiadau hyn, a sut rydym yn cysylltu hefyd â Nodau Llesiant Cymru o da Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.

Ceir mwy o wybodaeth am ddull 6 cam Lleisiau Bach yn ein Llawlyfr Hyfforddiant.

Gweler hefyd y pecyn Plant fel Ymchwilwyr gwreiddiol a gynhyrchwyd gan y Ddraig Ffynci a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddechreuodd siwrne Lleisiau Bach.

Gweler yma erthygl y gwnaeth tîm Lleisiau Bach gynorthwyo i’w ysgrifennu, sy’n esbonio sut y gall ac y dylai hawliau plant a datblygu cynaliadwy weithio gyda’i gilydd.

Cysylltu Lleisiau Bach Little Voices â polisi, y gyfraith a’r cwricwlwm addysg

Mae Lleisiau Bach Little Voices yn cael eu fframio gan yr CCUHP, ac wrth fyfyrio ar brosiectau unigol rydym yn cyfeirio at themâu sy’n deillio o’r system fonitro ac adrodd o dan yr CCUHP. Darllenwch fwy am ddolenni monitro ac adrodd CCUHP yma.

Gellir cysylltu llawer o brosiectau hefyd â 17 Nod Datblygu Cynaliadwy (SDGs) y Cenhedloedd Unedig. Darllenwch fwy am hyn yma.

Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a gwaith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi mynegiant i’r SDGs, gan hyrwyddo 7 nod llesiant a 5 dull o weithio sydd wedi’u blaenoriaethu ar ôl ymgynghori â phobl a chymunedau yng Nghymru. Darllenwch fwy yma am sut y gall Lleisiau Bach Little Voices gefnogi agenda llesiant Cymru.

Mae’r dulliau Lleisiau Bach Little Voices yn gefnogol iawn i bedwar diben cwricwlwm addysgol, Cwricwlwm i Cymru, ar gyfer oedrannau 3 – 16 oed sy’n weithredol o 2022. Mwy o wybodaeth yma.