Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwneud synnwyr ymarferol o’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae’n gwneud hyn drwy hyrwyddo 7 Nod Llesiant a 5 Ffordd o Weithio i gyrff cyhoeddus. Mae’r rhain yn arfau pwysig i weithredu, yn ein gwlad ein hunain, i nodau datblygu cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig.
Mae diddordeb plant yn yr agenda hon yn amlwg, nid yn unig am mai ‘nhw yw’r dyfodol’ ond am fod ganddynt anghenion yn y fan hon ac yn awr yn ogystal â’u cyfraniad eu hunain i wneud penderfyniadau a chamau gweithredu a fydd yn sicrhau datblygu cynaliadwy. Ac o dan CCUHP, sy’n rhan o’r gyfraith yng Nghymru, mae ganddynt yr hawl i weithredu sy’n ymateb i’w hanghenion ac i gymryd eu barn o ddifrif pan wneir penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Mae llawer o brosiectau Lleisiau Bach wedi dangos y rôl y gall plant a fframwaith hawliau plant ei chwarae. Mae tîm Lleisiau Bach wedi gweithio gydag eraill i gyflwyno’r achos dros alinio datblygu cynaliadwy a hawliau plant yn well mewn polisi ac ymarfer: Integreiddio Datblygu Cynaliadwy a Hawliau Plant: Astudiaeth Achos ar Gymru(Croke, Dale, Dunhill, Roberts, Unnithan &Williams) (2021) Gwyddorau Cymdeithasol, 10(3), 100
Ar ein tudalen Prosiectau Lleol rydym wedi nodi rhai prosiectau Lleisiau Bach sy’n enghreifftio hyn, lle mae plant wedi dewis materion i ymchwilio sy’n cysylltu’n glir â’r Nodau Llesiant neu’r dulliau gweithredu sy’n cysylltu’n glir â’r Ffyrdd o Weithio.
Mae’r canlynol yn ddisgrifiad byr o gyfraith Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru. Am fwy o wybodaeth gweler tudalennau gwe: Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Datblygu Cynaliadwy yng Nghymru
Mae Adran 2 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn diffinio datblygu cynaliadwy yng Nghymru fel a ganlyn:
Y broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda’r nod o gyflawni’r nodau llesiant.
Mae adran 5 yn esbonio bod yr ‘egwyddor datblygu cynaliadwy’ yn golygu bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus:
gweithredu mewn modd sy’n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae’r Ddeddf yn nodi 5 ffordd o weithio sydd eu hangen ar gyrff cyhoeddus i gyflawni 7 nod llesiant. Mae’r dull hwn yn rhoi cyfle i feddwl yn arloesol, gan adlewyrchu’r ffordd rydym yn byw ein bywydau a’r hyn a ddisgwyliwn gan ein gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r 7 nod llesiant fel a ganlyn (a gymerwyd o adran 4 o’r Ddeddf):
Nod | Disgrifiad |
Cymru lewyrchus | Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol a charbon isel sy’n cydnabod terfynau’r amgylchedd byd-eang ac felly’n defnyddio adnoddau’n effeithlon ac yn gymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, gan alluogi pobl i fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy sicrhau gwaith gweddus. |
Cymru gydnerth | Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau sy’n gweithio’n iach sy’n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a’r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd). |
Cymru iachach | Cymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol pobl yn cael ei wneud i’r eithaf a lle y deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol. |
Cymru fwy cyfartal | Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol). |
Cymru o gymunedau cydlynol | Cymunedau deniadol, hyfyw, diogel a chysylltiedig. |
Cymru o ddiwylliant bywiog a’r iaith Gymraeg ffyniannus | Cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a’r iaith Gymraeg, ac sy’n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, a chwaraeon a hamdden. |
Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang | Cenedl sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud y fath beth wneud cyfraniad cadarnhaol i lesiant byd-eang. |
Y 5 ffordd o weithio yw (wedi’u cymryd o adran 5 o’r Ddeddf):
Ffordd o weithio | Disgrifiad |
Hirdymor | Cydnabod pwysigrwydd cydbwyso anghenion tymor byr â’r angen i ddiogelu’r gallu i ddiwallu anghenion hirdymor, yn enwedig lle y gallai pethau a wneir i ddiwallu anghenion tymor byr gael effeithiau niweidiol yn y tymor hir |
Integreiddiad | Mabwysiadu dull integredig, drwy ystyried sut y gall amcanion llesiant a fabwysiadwyd gan gorff cyhoeddus effeithio ar bob un o’r nodau llesiant, ar amcanion llesiant ei gilydd a chyrff eraill |
Cyfranogiad | Cynnwys pobl sydd â diddordeb mewn cyflawni’r nodau llesiant, gan sicrhau amrywiaeth cynrychiolaeth boed yn genedlaethol neu’n lleol |
Cydweithio | Gweithredu ar y cyd ag eraill, o fewn neu y tu allan i’r corff cyhoeddus, i helpu’r corff hwnnw neu un arall i gyflawni ei amcanion llesiant |
Ataliad | Defnyddio adnoddau i atal problemau rhag digwydd neu waethygu, gan helpu i gyflawni amcanion llesiant |