Gwerthuso

Mae Lleisiau Bach Little Voices yn:

… defnyddio dull canmoladwy o gynnwys pobl ifanc…yn ymchwilwyr gweithredol, gan ddefnyddio ymchwil i adfyfyrio’n feirniadol ar faterion oedd wirioneddol bwysig iddynt, ac i gyfleu eu canfyddiadau i’r bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau.(Ganolfan Gydlynu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, Gwobrau Ymgysylltu, Tachwedd 2016)

Gallwch ddarllen yr adroddiad gwerthuso annibynnol Lleisiau Bach yn Galw Allan (2014 – 17) yma.

A’r adroddiad gwerthuso annibynnol Lleisiau Bach yn Cael eu Clywed (2017 – 2020) yma.

Beth mae plant yn ei ddweud

Yn gyson, mae gwerthusiadau mewn-prosiect yn dangos plant yn adrodd iddynt gredu eu bod wedi dysgu ‘llawer’ am hawliau ac ymchwil plant; yn meddwl iddynt gael eu cymryd o ddifri a chael eu clywed, ac yr hoffent ddysgu mwy am hawliau plant a’r pynciau y maent wedi ymchwilio iddynt, gyda blaenoriaeth gref dros ddysgu ochr yn ochr ag oedolion, a byddent yn argymell yn fawr dweud wrth ysgolion a phlant eraill i gymryd rhan mewn prosiect tebyg.

‘Hoffwn i fwy o blant mewn ysgolion eraill glywed am Lleisiau Bach, mae’n help mawr’

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Sut brofiad oedd o..

‘cael hwyl tra’n dysgu…darganfod fod dysgu yn hwyl!’

‘Dysgais y gallwn ni ein hunain feddwl am brosiectau’

‘Dysgais fod gan blant gymaint o hawliau ac oedolion a gallwn alw allan dros ein hawliau ein hunain’

‘Hoffais sut roeddem yn defnyddio gwaith tîm a chydweithio’

‘yn llawer o hwyl’

‘Grrrrêt!’

‘Syfrdanol’

‘Amser gorau ‘rioed’

‘’Dwi’n caru Lleisiau Bach’

‘Mae caredigrwydd yn eich calon’

Am yr oedolion a gymerodd ran…

‘Doedde’ nhw ddim yn ymyrryd’

‘Fe gyflawnon nhw ein syniadau’

‘Fe gymeron nhw ein syniadau a meddwl amdanynt’

‘Roedd eu llygaid wedi hoelio arnon ni’

‘roeddent yn gofyn cwestiynau’

‘roedden nhw yn siarad ac yn siarad yn ôl â mi’

‘roeddent yn ein helpu’

‘roeddent yn gwrando’

‘roeddent yn canolbwyntio’

‘roeddent yn canmol fy syniadau’

‘Pan ddwedais wrth dad mi ‘nath o roi ‘pause’ ar y teledu’

[Gweithiwr LBLV ] ‘… yn nodi lawr popeth oeddem angen o’n gwaith a’n cerdd’.

‘roedden nhw yn ateb’

‘roedden nhw yn canolbwyntio arnom ni’

‘roedden nhw’n cadw’n ddistaw’

‘roedden nhw’n gofyn cwestiynau’

‘Pryd bynnag y byddem yn gofyn cwestiwn roedden nhw yn ein hateb.’

‘Roedden nhw yn gadael i chi siarad am eich syniadau.’

‘Roedden nhw yn edrych arnaf i’

‘cyswllt llygad’

‘Fy llais uchel’

‘Roedd hi yn edrych arnaf ac yn gwrando ar beth oeddwn yn ei ddweud’

‘’Sgwennu lawr yr hyn oeddwn yn ei ddweud’

‘Roeddent yn ymateb ac yn gwrando.’

Barn staff Ysgol/Llywodraethwyr

‘tebycach i waith CA4 na CA2!’

‘mwynhad, hyder ac aeddfedrwydd y disgyblion’

‘Mae gofyn iddynt yn uniongyrchol “Beth sy’n bwysig i chi?” wedi grymuso’r plant ’

‘mae llawer o newidiadau wedi’u gwneud ac yn parhau i gael eu gwneud gyda chymorth y plant ’

‘Y wybodaeth a’r hyder i alw allan at oedolion a chael eu clywed’

‘Wedi codi eu hunan-barch a’u hunanhyder’

‘yn fwy hyderus ac awyddus i fynegi eu barn’

‘[Magodd y disgyblion] ddealltwriaeth o fethodoleg ymchwil, sut y gallent ddylanwadu ar newid ac ymdeimlad o berchnogaeth’

‘Mae llais disgyblion nawr yn gryfach… bydd yn dylanwadu ar y cwricwlwm’

Barn partneriaid cyrff anllywodraethol (NGO’s):

‘nid yn unig yn codi lleisiau plant i gael eu clywed nawr, ond hefyd yn gymorth i’w paratoi ar gyfer oes o gyfranogiad gweithredol’

‘yn annog annibyniaeth a gwytnwch, ac yn datblygu hunanhyder a pherchnogaeth ar ddysgu a gwybodaeth; sgiliau meddal sy’n hanfodol i bobl ifanc sydd wedi profi anawsterau gyda’r system addysg yn y gorffennol, ac a allai deimlo’n anfodlon ail-ymgysylltu yn y dyfodol’

‘prawf y gellir, trwy wrando ar farn plant a phobl ifanc yng Nghymru a’u cynnwys wrth gynnig atebion i’r problemau y mae nhw a chenedlaethau’r dyfodol, ysgogi newid sylweddol o ran polisi’

Barn ymchwilwyr proffesiynol:

‘hynod effeithiol wrth ddatblygu sgiliau plant fel ymchwilwyr ac fel eiriolwyr dros newid ar sail tystiolaeth… potensial mawr ar gyfer cyd-gynhyrchu ymchwil sy’n gynhwysol o ran oedran o fewn sefydliadau ymchwil’

‘‘ysgoloriaeth dinasyddion’ rhagorol ar waith!’

‘gwersi amhrisiadwy a mewnwelediad i’r broses bwysig o gynnwys plant fel cyfranogwyr mewn ymchwil’

‘elfen hanfodol o’r gwaith ehangach o greu cymdeithas fwy cynhwysol trwy ymgysylltiad ystyrlon â phlant a phobl ifanc’

‘llwyfan hanfodol ar gyfer dangos pwysigrwydd cynnwys plant fel rhanddeiliaid o fewn cymdeithas, ond hefyd ar gyfer sefydlu dull an-symbolaidd tuag at y ffyrdd yr ydym yn ymgysylltu â phlant’