Prosiectau


Gellir gwneud prosiectau ar raddfa fawr, er enghraifft ar gyfer adrodd CCUHP, gyda nifer o grwpiau lleol yn ymwneud â dylunio, dosbarthu a dadansoddi arolygon ledled Cymru neu’r tu hwnt, fel pan ymunodd grwpiau Lleisiau Bach Cymru ag ymchwilwyr ifanc yn Niwrnod Trafod Plant fel Amddiffynnwyr Hawliau Dynol 2018.
Gall grwpiau sy’n ymgymryd â phrosiect Lleisiau Bach Lleisiau Bach gysylltu â’i gilydd a chyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar faterion newydd. Er enghraifft, cymerodd grwpiau a fynychodd uwchgynhadledd newid yn yr hinsawdd Lleisiau Bach amser i ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar yr economi gylchol; cyfarfu eraill â Phwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd i helpu gyda’u hymchwiliad i effaith cyfreithiau hawliau plant yng Nghymru.
Darllenwch am rai o’n Prosiectau Lleol yma.
Darllenwch am ein gwaith rhyngwladol yma.
Darllenwch am ein prosiectau eraill yma.