Hanes

Yn 2007, anfonodd y Ddraig Ffynci ddau adroddiad i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn: yr adroddiad dan arweiniad ieuenctid (11 – 24 oed), ‘Ein Hawliau Ni, Ein Stori Ni’, a ‘Pam Fod Oed Pobl yn mynd i Fyny Nid i Lawr?’, adroddiad ar beth oedd plant dan 11 oed yng Nghymru yn meddwl am eu hawliau a sut y gallent gael mynediad atynt.  

Wedi hynny, trwy weithio gydag Uned Cefnogi Partneriaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, datblygodd Draig Ffynci ddull o ymchwilio dan arweiniad plant ar gyfer plant dan 11 oed.

Adeiladodd Lleisiau Bach Little Voices ar y gwaith hwn trwy brosiectau lleol a chenedlaethol a gefnogir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Phrifysgolion Abertawe a Bangor. Cydnabuwyd ein gwaith yn 2016 gan y Ganolfan Gydlynu Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ein bod:

‘wedi defnyddio dull canmoladwy o gynnwys pobl ifanc-mor ifanc â 7 oed- yn ymchwilwyr gweithredol, gan ddefnyddio ymchwil i adfyfyrio’n feirniadol ar faterion oedd yn wirioneddol bwysig iddynt, ac i gyfleu eu canfyddiadau i’r bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau.’.

Mae prosiectau Lleisiau Bach Little Voices wedi cyrraedd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac wedi cyfrannu at ymchwil broffesiynol, addysg a hyfforddiant.