Y Nodau Datblygu Cynaliadwy

Mae pob gwlad a phob llywodraeth yn y byd wedi cytuno ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy   (a elwir hefyd yn SDGau neu Nodau Byd-eang). Mae  Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy  yn nodi camau y mae’n rhaid iddynt eu cymryd tuag at gyflawni’r nodau.

Mae angen i bob gwlad gymryd y camau hyn mewn ffyrdd sy’n gweithio iddyn nhw, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015  yn rhan o ffordd Cymru o weithredu’r SDGau ar lefelau lleol a chenedlaethol. Mae  Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol  yn goruchwylio gweithredu’r Ddeddf honno.

Yn y Cenhedloedd Unedig, y Deyrnas Unedig yw’r ‘Aelod-wladwriaeth’ ac o’r herwydd mae disgwyl, o leiaf unwaith, iddi gynnal Adolygiad Cenedlaethol Gwirfoddol  a chyflwyno adroddiad i Fforwm Gwleidyddol Lefel Uchel y Cenhedloedd Unedig.  Gwnaeth Llywodraeth y DU hyn trwy gyflwyno adroddiad VNR y DU yn 2019.

Mae’r SDGau yn darparu cyfleoedd ar gyfer effaith a dylanwad ar bob lefel, o’r gymuned i lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Fodd bynnag, nid yw’r ffordd y mae agenda’r SDGau a hawliau plant neu agendâu hawliau dynol ehangach yn cefnogi ei gilydd wedi’i gweithio allan yn llawn eto. Gallwch ddarllen mwy am hyn yn ein herthygl Integrating Sustainable Development and Children’s Rights: A Case Study on Wales (Croke, Dale, Dunhill, Roberts, Unnithan & Williams) (2021) Social Sciences, 10(3), 100. 

 

Trwy adlewyrchu ar brofiad o gefnogi prosiectau Lleisiau Bach Little Voices, gallwn weld bod llawer yn taro tant gydag un neu fwy o’r 17 SDG:

  1. Dim Tlodi
  2. Dim Newyn
  3. Iechyd a Llesiant Da
  4. Addysg o Ansawdd
  5. Cydraddoldeb Rhywiol
  6. Dŵr Glân a Glanweithdra
  7. Ynni Fforddiadwy a Glân
  8. Gwaith Boddhaol a Thwf Economaidd
  9. Diwydiant, Arloesi a Seilwaith
  10. Llai o Anghydraddoldeb
  11. Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy
  12. Defnyddio a Chynhyrchu’n Gyfrifol
  13. Gweithredu ar y Newid ar yr Hinsawdd
  14. Bywyd o Dan y Dŵr
  15. Bywyd ar y Tir
  16. Heddwch, Cyfiawnder a Sefydliadau Cadarn,
  17. Gweithio mewn Partneriaeth i Gyflawni Nodau

Os ydych am bori trwy’r prosiectau lleol gan ddefnyddio’r 17 SDGau, ynghyd â themâu CCUHP, Nodau Llesiant a ffyrdd o weithio, gallwch wneud hynny yma.