Lleisiau Bach Little Voices yw’r dull y mae Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc yn ei ddefnyddio i rymuso plant fel ymchwilwyr ac fel eiriolwyr, i helpu i wreiddio hawliau dynol yn lleoedd pob dydd plant ac i alluogi cydgynhyrchu newid mewn dull oed-gynhwysol.
Menter yw Arsyllfa Cymru sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgolion Abertawe a Bangor, ac mae’n gweithio gydag ystod eang o bartneriaid a disgyblaethau i helpu i sicrhau bod hawliau dynol plant a phobl ifanc yn cael eu parchu, eu hamddiffyn a’u cyflawni.
Adroddiad Lleisiau Bach
Llawlyfr Hyfforddiant Newydd
Dyma ein Llawlyfr newydd i chi allu defnyddio ein dulliau ni. Cliciwch ar lun y llawlyfr
Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifanc
Mae Lleisiau Bach yn un o brosiectau yr Arsyllfa Cymru. Prosiect cydweithredol â phartneriaid rhyngwladol, cenedlaethol a lleol yw’r Arsyllfa, sy’n darparu fforwm ar gyfer rhannu ymchwil, dadleuon, addysg a gwybodaeth ar hawliau dynol plant a phobl ifanc, ac yn gweithio ar gyfer gwireddu hawliau plant drwy bolisi, ymarfer, eirioli a diwygio’r gyfraith.


